Beth yw Achos Busnes Amlinellol?
Dogfen sy’n nodi pa gyllid, staff, adnoddau a chyfleusterau fydd o bosib eu hangen i reoli’r gwastraff gweddilliol yn effeithiol. Mae’r ddogfen yn helpu’r Cynulliad i benderfynu os ydynt yn cytuno gyda’r cynlluniau, ac os ydynt yna efallai y cawn arian i helpu’r prosiect.
Beth sydd yn yr Achos Busnes Amlinellol?
Fel rhan o lunio’r Achos Busnes Amlinellol mae gofyn i’r Prosiect nodi dull o reoli gwastraff a safle lle y gallai hyn ddigwydd. Ond nid yw hyn yn bendant, dim ond cychwyn y broses trafod. Bydd y safle a’r dull dewisol yn mynd allan i dender ym 2010 a bydd unrhyw safle yn gorfod mynd trwy’r broses caniatâd cynllunio arferol.
Pa safle sydd wedi cael ei ddefnyddio yn yr ABA ?
Mae’r safle sy’n cael ei enwi yn yr achos busnes wedi ei leoli ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. Felly mae’r Prosiect yn trafod gyda’r cymunedau lleol o amgylch y safle i esbonio’r camau nesaf a'u diweddaru yn ystod y broses. Nid yw’r penderfyniad o leoli’r safle trin gwastraff gweddilliol ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi ei gadarnhau. Cychwyniad ar broses deunaw mis yw hyn a gall cynigwyr posib a fydd efallai yn adeiladu a rheoli’r gyfleuster (neu’r cyfleusterau) awgrymu unrhyw le ar draws Gogledd Cymru.
Pa dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ABA ?
Y dechnoleg sy’n cael ei awgrymu yn yr ABA a allai gael ei ddefnyddio i reoli gwastraff gweddilliol yw Egni-o-Wastraff (EoW). Does dim penderfyniad wedi ei wneud ar hyn. Egni-o-Wastraff yw’r broses o losgi gwastraff ni all ei ailgylchu ac yna storio’r gwres a’r stêm sy’n cael ei gynhyrchu. Yna fe all y gwres a’r stêm yma gael ei ddefnyddio gan weithrediadau masnachol gerllaw i bweru eu safleoedd. Felly mae’n cynhyrchu egni adnewyddadwy heb ddibynnu’n hollol ar danwydd ffosil.
Beth Nesaf?
Os yw’r Cynulliad yn cymeradwyo’r ABA, yna bydd y Prosiect yn gofyn i gynigwyr dendro ar gyfer y dasg o reoli ac adeiladu’r safle trin gwastraff gweddilliol. Fel rhan o’r broses ceir ymgynghoriad yn ystod haf 2010 yn ôl pob tebyg.
Bydd y Prosiect yn trafod gyda phreswylwyr lleol yn ystod y broses ymgynghori ac yn gweithio gyda nhw i helpu i asesu’r dull gorau o benderfynu ar y cynigiwr llwyddiannus.
DOGFENNAU PROSIECT
Mae'r rhan yma yn cynnwys papurau cyfarfodydd Cyd-Bwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru. Mae'r cyfarfodydd yma yn cael ei gynnal yn chwarterol, a fydd papurau cyfarfodydd yn cael ei bostio ar ol bob cyfarfod. Mae'r ddogfenau yn Gymraeg a Saesneg.
Achos Busnes Amlinellol
Isod mae fersiwn cyhoeddus o'r Achos Busnes Amlinellol
(fersiwn 1.2, Tachwedd 2009). Fe fydd fersiwn wedi'w ddiweddaru ar gael
ar y safle hon ar ol ei gyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Atodiadau Cefnogol
|