Y mae’r Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC) yn dod â phump o gynghorau ynghyd: Sir y Fflint, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd. Drwy gyd weithio y maent yn prynu gwasanaeth o’r diwydiant gwastraff a fydd yn darparu datrysiad addas i drin y gwastraff sydd yn weddill wedi i chi ailgylchu cymaint a sy’n bosib. Y mae hyn yn cael ei adnabod fel gwastraff gweddilliol.
Yn draddodiadol rydym wedi claddu ein gwastraff gweddilliol mewn safeloedd tirlenwi. Y mae tirlenwi yn cynhyrchu nwyon sydd yn niweidiol i’r amgylchedd. Y mae cymysgedd o fethan a charbon deuocsid a elwir yn biogas yn cael ei ryddhau. Y mae’r rhain yn nwyon tygwydr sydd yn cyfrannu tuag at newid hinsawdd ac yn niweidio ein planed. Y mae Methan 21 gwaith yn fwy llygredig na charbon deuocsid. Rydym hefyd yn rhedeg allan o safleoedd tirlenwi yng Ngogledd Cymru. Amcangyfrifir bod tua 5 mlynedd o le tirlewni ar ôl yng Nghymru. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) wedi gosod targedau ar gyfer y cyfanswm o sbwriel y gellir ei anfon i dirlenwi.
Yng Ngogledd Cymru rydym yn ailgylchu dros 40% o wastraff y cartref ac erbyn 2025 y mae angen i ni fod yn ailgylchu 70%. Bydd swm sylweddol o wastraff gweddilliol yn parhau i gael ei gynyrchu gan gartrefi yn yr ardal tan orchudd y prosiect hwn pan fydd y targed ailgylchu hwn o 70% yn cael ei gyrraedd.
Beth ydym ni am wneud nawr?
Rhaid i ni gynllunio sut i drin y gwastraff gweddilliol hwn ac er bod hyn yn ymddangos yn amser hir i ffwrdd mae’n rhaid i ni ddechrau nawr. Y mae’n rhaid i ni gael datrysiad ac y mae’r mathau hyn o brosesau caffaeliad yn cymryd ychydig o flynyddoedd i gwblhau. Rhaid i’r datrysiad y byddwn yn ei ddewis; gyfarfod ag anghenion y cymunuedau yn y pum awdurdod; a darparu buddion i Ogledd Cymru. Y mae’r prosiect pwysig hwn angen eich barn chi ac rydym am i chi fod yn rhan ohono.
Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
Er mwyn sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), ffurfiodd y PTGGGC Achos Busnes Amlinellol (ABA). Yr oedd yr ABA yn nodi safle Egni o Wastraff wedi ei leoli ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy fel enghraifft o dechnoleg a safle i ddangos i LlCC faint o gyllid oedd angen. Dim ond dogfen i gael cyllid oedd yr ABA a gynhyrchwyd ar gyfer LlCC ac er mwyn i PTGGGC ddeall faint fydd datrysiad posib yn gostio. Y mae LlCC wedi gaddo £142 miliwn o bunnoedd i’r prosiect, felly yn awr gall PTGGGC ddechrau chwilio am ddatrysiad triniaeth.
Y mae’r PTGGGC angen prynu datrysiad gan y diwydiant rheoli gwastraff ac maent wedi dechrau siarad gyda’r diwydiant ynghlyn â’r hyn rydym ei angen. I ddarganfod beth oedd yn bwysig i bobl ar draws y pum awdurdod lleol rydym wedi cynnal cyfres o weithdai i ganfod byth yw eu prif flaenoriaethau. Cynhaliwyd y gweithdai hyn gyda chynghorwyr, grwpiau cymunedol, amrywiaeth o sefydliadau cenedlaethol pwysig a grwpiau arbenigol megis Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfeillion y Ddaear. Y mae’r gweithdai grŵp hyn wedi ein cynorthwyo i ddeall pa flaenoriaethau pwysig sydd angen eu bodloni pan yn asesu y cynigion a fydd yn cael eu cyflwyno. Bydd y blaenoriaethau yn cael eu bwydo i mewn i fframwaith meini prawf a fydd yn cael ei ddefnyddio i asesu y datrysiadau a fydd yn cael eu cynnig gan y diwydiant rholi gwastraff a pha run o’r datrysiadau hyn a fydd yn cael ei brynu yn y pen draw.
Beth sydd yn digwydd nesaf?
Mae ein tudalennau “ble ydym ni nawr” a “llinell amser” ar y safle hwn yn dangos i chi sut bydd y prosiect yn datblygu. Bydd yr PTGGGC yn prynu gwasanaeth o’r diwydiant rheoli gwastraff a fydd yn gofyn iddynt ddarparu datrysiad cyflawn. Gall hyn olygu adeiladu technolegau a gweithredu cyfleusterau. Y mae’r broses caffaeliad yn dilyn canllawiau clir ac y mae’r PTGGGC wedi dechrau drwy gyhoeddi hysbysiad yn OJEU a chynnal diwrnod cynigyddion a oedd yn gwahodd cwmniau gyda diddordeb i wybod mwy am y prosiect.
Y mae’r PTGGGC angen gwybod fod y cwmniau sydd â diddordeb yn meddu’r profiad a’r safle ariannol i ymdopi â phrosiect a fydd yn rhedeg am 25 mlynedd, felly y mae’n ofynnol i’r cwmniau gwblhau ymarferiad cyn-llwyddo. Y mae hyn wedi dechrau a bydd cwmniau llwyddiannus yn cael ei gwahodd i dendro am y gwaith.
Bydd y broses tendro yn cynnwys cyfres o gyfnodau ym mhle bydd cynigion yn cael eu manylu gan bob un o’r cynigyddion mewn proses o ddeialog. Ym mhob cyfnod bydd cwmnaiu yn cael eu tynnu o’r broses hyd nes y bydd cynigydd ffafriol yn cael ei ddewis. Y mae’n bwysig i’r diwydiant rheoli gwastraff ddeall beth y mae’r PTGGGC eisiau i’r datrysiad ei gyflawni a bydd y gwerthusiad meini prawf sydd yn cael ei gynhyrchu yn darparu hyn ac yn offeryn defnyddiol i asesu cynigion y cwmniau.
Mae'r Bartneriaeth yn awr wedi derbyn cyflwyniadau gan y tri chyfranogydd sydd ar ôl yn y broses gaffael, a fydd yn galluogi'r Bartneriaeth i ystyried a p’un a allai’r rheilffordd ffurfio rhan o’r datrysiad i’r dyfodol. Mae'r Cyd Bwyllgor yn cyfarfod ym mis Mawrth 2012 i ystyried yr eitem benodol hon.
|