Cwestiynau Cyffredin

Croeso i'n Tudalen Cwestiynau a Holir yn Aml. Y mae'r dudalen hon yn cynnwys amrywiaeth o gwestiynau sydd wedi eu gofyn yn barod ynghylch y prosiect. Wrth i fwy barhau i gael eu gofyn byddwn yn eu hateb yma. Pe byddai gennych gwestiwn nad yw ar y dudalen hon yna ebostiwch ni os gwelwch yn dda a byddwn yn barod i'w ateb.

Beth yw gwastraff gweddilliol?
Croeso i’n tudalen Cwestiynau a Holir yn Aml. Y mae’r dudalen hon yn cynnwys ystod eang o gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod ynghylch y prosiect. Fel y bydd mwy yn parhau i gael eu gofyn byddwn yn eu hateb. Pe byddai gennych gwestiwn nad ydyw ar y dudalen hon ebostiwch ni os gwelwch yn dda a byddwn yn falch o’i ateb.

Gwastraff gweddilliol yw’r gwastraff sydd dros ben wedi i ni ailgylchu a chompostio cymaint ag y gallwn.

O ble y daw’r 150,000 tunnell o wastraff gweddilliol?
150,000 tunnell yw’r swm o wastraff bin / bag du o gartrefi ar draws y pum awdurdod bob blwyddyn yn 2025, pan fydd 70% o wastraff y cartref yn cael ei ailgylchu. Ffigwr bras yw hwn sydd yn ystyried y cynnydd yn nifer y cartrefi a ragwelir erbyn 2025.

A fydd y ffigwr o 150,000 tunnell yn newid dros amser?

Beth os na gyrhaeddwn y targed ailgylchu o 70%?
Y mae’r swm o wastraff yr ydym yn ei yrru i dirlenwi yn cael ei wylio yn ofalus ac mae uchafswm tunelledd wedi ei osod wedi ei selio ar y canran y dylem fod yn ailgylchu. Y mae’r dirwyon am beidio â chyrraedd y targedau yn helaeth ac yn debygol o fod yn £200 am bob tunnell o wastraff, yn ychwanegol at hyn y pris o gael gwared o’r dunnell o wastraff yn y safle tirlenwi.

Pryd ydych yn credu y bydd y prosiect yn dechrau?
Mae’r prosiect eisioes wedi dechrau, er nad ydyw ond yn dechrau. Bydd prynu datrysiad yn cymryd ychydig flynyddoedd a dilyn canllawiau llym. Ni fydd cynigydd ffafriol yn cael ei ddewis tan Mawrth 2012 ac ni fydd adeiladi yn dechrau tan cynnar 2015.

Beth yw’r Cyfarwyddeb tirlenwi Ewropeaidd?
Cyfarwyddeb gan yr UE wedi ei anelu at atal a lleihau effaith negyddol gwastraff ar yr amgylchedd. Y mae’n ymdrin â gofynion peirianneg tirlenwi gan gynnwys rheoli dŵr, diogelwch o dir a chynhyrchiad methan. Y mae’n canolbwyntio ar leihau y gwastraff yr ydym yn gynhyrchu, cynyddu ail ddefnyddio deunyddiau, ailgylchu ac adennill cymaint o ynni a phosib o wastraff yr ydym yn ei daflu.

Faint fydd y prosiect yn gostio?
Y mae’r prosiect yn brosiect 25 mlynedd ac rydym yn amcangyfrif y bydd werth rhwng £600 a £800 miliwn.

Os yw LlCC yn darparu £142 miliwn, o ble y bydd gweddill yr arian yn dod?
Ar hyn o bryd mae eich awdurdod lleol yn talu i gymryd eich biniau du i gael eu trin mewn safle tirlenwi. Mae tâl gât yn cael ei godi am bob tunnell o wastraff a anfonir yno wrth iddo fynd i mewn i’r safle i gael ei drin. Yn ychwanegol, mae treth tirlenwi yn cael ei godi gan y llywodraeth. Y mae hwn yn debygol o godi yn sylweddol ac felly bydd y gost i’ch awdurdod lleol yn codi. Bydd y £142 miliwn gan LlCC yn cael ei ddarparu dros y 25 mlynedd o’r prosiect a bydd y gweddill yn dod o awdurdodau lleol y Bartneriaeth, er y mae’n bwysig nodi y bydd yr ateb i drin gwastraff gweddilliol yn helpu eich awudrdod lleol i arbed arian oherwydd erbyn y bydd unrhyw wasanaeth trin gwastraff gweddilliol newydd wedi ei sefydlu bydd gwaredu tirlenwi yn fwy costus nag unrhyw ddatrysiad yr ydym yn cysidro ei brynu.

A fyddai yn fwy cost effeithiol i drin y gwastraff mewn safle tirlenwi?
Na byddai hyn yn ddrud iawn. Bydd tirlenwi yn dod yn fwyfwy drud am dri rheswm. Yn gyntaf, dim ond 4-5 mlynedd o le tirlenwi sydd ar ôl yng Nghymru. Fel unrhyw nwydd mewn cyflenwad byr bydd y pris i drin gwastraff yma yn codi. Yn ail, y mae’r llywodraeth eisiau rhwystro gwastraff rhag mynd i dirlenwi, felly bydd gwastraff a anfonir yno yn cael ei drethu ymhellach. Bydd cynyddu trethi tirlenwi yn ychwanegu ar pris y triniaeth. Yn drydydd, mae dirwyon yn gysylltiedig â pheidio cyrraedd y targedau a osodwyd gan LlCC i leihau swm y gwastraff a anfonir i dirlenwi. Y mae’r dirwyon hyn yn fawr a chosbol.

Gadewch i ni edrych ar bris cael gwared o wastraff gweddilliol am 25 mlynedd yn 2025, gan gymryd ein bod yn ailgylchu 70% ac yn cynhyrchu 150,000 tunnell bob blwyddyn. Byddai cost i dirlenwi tunnell o sbwriel gan gynnwys cynnydd mewn tâl gât, trethi tirlenwi a thrawsgludiad tua £128 y dunnell. Mae hyn yn £19.2 miliwn pob blwyddyn, sydd yn £480 miliwn dros 25 mlynedd heb ganiatau chwyddiant. Cofiwch nid yw hyn yn goddef dirwyon sydd yn gysylltiedig â pheidio a chyrraedd ein targedau tirlenwi a allai godi i leiafswm o £200 / tunnell am bob tunnell sydd yn rhagori ar y lwfans tirlenwi a ganiateir sydd wedi ei osod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Pwy sydd yn rhedeg y prosiect ac a oes ganddynt y gallu i drosglwyddo’r datrysiad?
Y mae’r prosiect yn cael ei reoli gan dîm PTGGGC sydd yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth o ymgynghorwyr arbenigol o gyfreithiol i technegol a chynllunio. Y mae’r prosiect hefyd yn cael ei reoli gan Gyd-Bwyllgor sydd yn cynnwys cynghorwyr o bob un o’r pum awdurdod lleol.

Pam nad yw Wrecsam wedi ymuno yn y bartneriaeth?
Y mae’r pum cyngor sydd wedi dod ynghyd wedi gwneud hyn i sicrhau fod ganddynt well pwer prynu ac i ddarganfod datrysiad i gael gwared o wastraff gweddilliol ar draws ardal ehangach gan ddod a darbodion maint a logisteg amgen. Yr oedd Wrecsam eisioes wedi penderfynu defnyddio dull eu hunain i drin eu gwastraff gweddilliol.

A fydd y datrysiad yn cael ei adeiladu yng Nghlannau Dyfrdwy?
Y mae Glannau Dyfrdwy yn safle dichonol ond nid oes safle wedi ei ddewis eto. Cafodd Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ei gynnwys fel safle cyfeirnod yn yr ABA a anfonwyd i LlCC, ond dim ond dogfen i geisio am ariannu oedd hwn. Nid yw’r arian gan LlCC yn ddibynnol ar unrhyw safle neu dechnoleg penodol. Bydd cynigyddion yn cael eu gwahodd i gynnig eu safle eu hunain.

A fydd y datrysiad yn fawr ac yn hyll?
Bydd y datrysiad yn ddatrysiad addas ac efallai yn gyfuniad o dechnolegau. Cerwch i’n tudalen ddolennau os gwelwch yn dda i weld safleoedd ar dechnolegau sydd yn dangos i chi sut y mae gwahanol dechnolegau yn edrych a’u maint. Mewn cymhariaeth â llawer o gaffaeliadau triniaeth gwastraff gweddilliol yn y DU y mae gofyniad y Bartneriaeth o oddeutu 150,000 tunnell pob blwyddyn yn fach ( er enghraifft y mae nifer o gaffaeliadau yn Lloegr yn y rhanbarth o 250,000 i 500,000 tunnell pob blwyddyn)

A fydd yna beryglon iechyd? A fydd allyriadau yn saff?
Y mae deddfau llym mewn grym ynghylch allyriadau ac y mae rhain yn cael eu gwylio yn gyson. Yr Asiantaeth Amgylchedd mewn ffordd i’r heddlu amgylcheddol ac mae ganddynt yr awdurdod i gau safle i lawr os y caiff terfynau allyriad eu torri neu os oes perygl i iechyd gyhoeddus.

A fydd o yn swnllyd iawn?
Bydd llygredd sŵn a lefelau sain yn cael eu gwylio yn ofalus. Nid yw gweithfeydd yn swnllyd fel arfer yn ystod eu triniaeth ond efallai y bydd ychydig o sŵn tra bydd y datrysiad yn cael ei adeiladu.

Pa mor fach allith safle fod?
Mae angen i’r datrysiad drin oddeutu150,000 tunnell o sbwriel bob blwyddyn. Os oes nifer o gyfleusterau yn cael eu hadeiladu ar nifer o safleoedd y mae hyn yn lleiahu maint pob ffatri. Er hynny y mae rhai technolegau a datrysiadau yn debygol o fod yn llai economaidd ddichonadwy os oes nifer o gyfleusterau bach gan fod unrhyw ddarbodion o raddfa yn cael eu colli. Bydd y datrysiad yn ddatrysiad addas ac efallai yn gyfuniad o dechnolegau. Cerwch i’n tudalen ddolennau os gwelwch yn dda i weld safleoedd ar dechnolegau sydd yn dangos i chi y sut y mae gwahanol dechnolegau yn edrych a’u maint.

Beth am gostau trafnidiaeth? A fyddai’n costio mwy i gael un safle neu nifer o safleoedd?
Byddai costau trafnidiaeth yn dibynnu ar ble y byddai’r datrysiad yn cael ei leoli. Mae gwastraff angen ei gasglu o gartrefi unigol a’i anfon i storfa leol ac yno y bydd yn cael ei drosglwyddo mewn swmp i gael ei drin. Y mae costau trafnidiaeth yn debygol o fod yn rhatach os oes nifer o safleodd yn hytrach nag un. Bydd y bartneriaeth yn edrych ar y modd y gallai rheilffordd ffurfio rhan o’r datrysiad cyflawn yn ystod y broses caffaeliad. Gallai hyn leihau unrhyw effaith trafnidiaeth yn sylweddol ac o bosib fod yn fwy cost effeithiol.

A fydd buddiannau ar gyfer y gymuned leol?
Bydd nifer o fuddiannau yn debygol o fod ar gael ar gyfer y gymuned sydd yn agos i safle ym mhle bydd datrysiad yn cael ei adeiladu. Bydd y buddiannau yn dibynnu ar y datrysiad a fydd yn cael ei adeiladu a gallent gynnwys: cost ynni isel, cyflogaeth a chyfleusterau addysgiadol.

A fyddai’r datrysiad yn creu llawer o swyddi?
Y mae’r datrysiad yn debygol o roi hwb i’r economi leol ym mhle y caiff cyfleuster ei adeiladu. Byddai hyn yn cynnwys tua 30 i 40 o swyddi lleol yn rhedeg y cyfleuster. Yn ychwanegol byddai nifer sylweddol o weithwyr adeiladu yn ymglymedig mewn unrhyw adeiladu a allai fod yn ofynnol wrth ddatblygu’r gwasanaeth.

Pa gwmniau sydd yn gallu cynnig i ddarparu datrysiad?
Y mae’r OJEU yn cael ei weld gan gwmniau yn fyd eang ac felly fe fyddai yn agored i unrhyw un sydd yn teimlo y gallent gynnig datrysiad addas.

A ydych wedi dewis datrysiad yn barod?
Na, rydym yn gwahodd y diwydiant rheoli gwastraff i gynnig datrysiadau. Byddwn yn gofyn i’r diwydiant i addasu datrysiad a byddwn yn asesu eu cynigion yn erbyn y gwerthusiad meini prawf sydd yn ymgorffori blaenoriaethau pwysig a gasglwyd gan gynghorwyr, grwpiau cymunedol, sefydliadau cenedlaethol a grwpiau diddordeb arbenigol.

Os ydym yn ceisio ailgylchu 70% o’n gwastraff pam y gall rhai plastigau gael eu hailgylchu ond dim eraill?
Y mae llawer o wahanol fathau o blastig, rhai na ellir eu hailgychu a rhai a ellir, ond nad oes ganddynt fan marchnata cynaladwy ar eu cyfer. Ym mhle nad oes galwad presennol am fath o blastig ni fydd y cyngor eisiau ei gasglu a bydd ei roi yn eich bin ailgylchu yn golygu na fydd y plastig eraill yr ydych wedi ei gasglu a allai gael ei ailgylchu yn awr yn gallu. Y mae’n bwysig i gasglu dim ond y plastig y mae eich cyngor yn gofyn amdano. Efallai bod amrywiaeth ehangach o blastig yn cael ei gasglu yn eich canolfan ailgylchu leol, felly gofynnwch yno beth maent yn cymryd. Wrth i fwy o farchnadoedd gael eu creu ar gyfer gwahanol blastigau bydd cynghorau yn ehangu yr amrywiaeth o blastig y byddent yn gasglu.

Y mae’r ffigyrau hyn wedi eu rhagamcanu ac mor fanwl a phosib yn seiliedig ar ffigyrau blaenorau a chanlyniadau sydd wedi eu rhagweld. Y mae’r ffigyrau hyn yn geidwadol ac yn seiliedig ar gyrraedd y targed ailgylchu heriol o 70%. Ar hyn o bryd mae Cymru yn ailgylchu 40 y cant o wastraff y cartref, felly rydym angen parhau i ailgylchu rhagor.