|
Cofrestru i’r Cylchlythyr
|
|
|
|
Dangos i chi cyfnod diweddaraf y prosiect 
Dangos i chi sut bydd y prosiect yn datblygu 
|
Croeso i wefan Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru (PTGGGC). Y mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y bartneriaeth ac ein nod. Y mae PTGGGC wedi ei ffurfio i alluogi pump o gynghorau yng Ngogledd Cymru i gyd weithio i fynd i’r afael â’r broblem o sut i drin gwastraff y cartref na ellir ei ailgylchu.
Y mae preswylwyr ar draws Gogledd Cymru yn gwneud eu gorau i ailgylchu a bydd hyn yn helpu i gyrraedd y targedau ailgylchu sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC). Gyda’ch cymorth chi byddwn yn ailgylchu 70% o wastraff y cartref erbyn 2025. Y mae hyn yn gadael 30% y mae’n rhaid i ni ei drin. Ar hyn o bryd rydym yn claddu ein gwastraff gweddilliol yn y ddaear mewn safle tirlenwi. Y mae’r dull hwn o gael gwared o’n gwastraff yn creu nwyon tygwydr niweidiol sydd yn cyfrannu tuag at newid hinsawdd. Y mae LlCC wedi gwneud ymrwymiad i leihau y cyfanswm o wastraff sydd yn cael ei anfon i dirlenwi, erbyn 2025 dim ond pump y cant o wastraff y cartref a allith gael ei gladdu mewn safle tirlenwi. Y mae’r prosiect hwn yn edrych ar y ffordd orau o gael gwared o’n gwastraff ac yn gofyn i arbenigwyr yn y diwydiant trin gwastraff i ddarparu datrysiad pwrpasol.
Y mae’r wefan hon yn dangos:
- sut y mae’r prosiect yn datblygu;
- rhoi cyfle i chi adael i ni wybod beth rydych yn ei feddwl;
- dweud wrthych sut rydym yn edrych am ddatrysiad ac yn eich darparu gyda gwybodaeth am y technolegau sydd yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd i drin gwastraff.
Bydd y safle yn tyfu yn y dyfodol wrth i opsiynau triniaeth gwahanol gael eu cynnig gan y diwydiant rheoli gwastraff gan gynnwys gweithfeydd triniaeth a’r safleoedd y gallent gael eu hadeiladu. Mae eich barn chi yn bwysig i ni ac rydym yn edrych ymlaen i glywed eich syniadau ac awgrymiadau. Ymwelwch ar wefan hon yn gyson os gwelwch yn dda gan y bydd tudalen fforwm yn ymddangos yn fuan yn y Flwyddyn Newydd a gobeithiwn y byddwch yn cyfrannu tuag ato.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiect ewch i Amdanom Ni.
Am ymholiadau penodol ewch i Cysylltwch gyda Ni. |
|