Hysbysiad Cyfreithiol

 

Mae'r hysbysiad cyfreithiol hwn yn berthnasol i holl gynnwys y wefan o dan yr enw parth www.ptgggc.org ("Gwefan") ac i unrhyw ohebiaeth drwy e-bost rhyngom ni a chi. Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r Wefan, os gwelwch yn dda. Mae defnyddio'r wefan yn arwydd eich bod yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, peidiwch â defnyddio'r Wefan. Mae'r Wefan yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych, ac yn cael ei gweithredu ganddynt. Gallwch gysylltu â ni yng Nghyngor Sir y Fflint, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd (NWRWTP], Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF neu dros y ffôn ar 01352 704915 neu drwy anfon e-bost at gwybodaeth@ptgggc.org

 

Mae'r hysbysiad hwn yn cael ei gyhoeddi gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych (y "Cynghorau").

 

Eiddo Deallusol

Oni nodir yn wahanol, mae’r hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn yr holl ddeunydd sydd ar y Wefan (gan gynnwys, heb gyfyngiad, destun, logos, ffotograffau a delweddau graffigol) yn eiddo i Sir y Fflint, y Cynghorau neu eu trwyddedwyr. Cedwir pob hawl. Caniateir i chi argraffu a lawrlwytho dyfyniadau o'r Wefan i’ch defnydd personol eich hun, ar yr amod nad oes unrhyw ddogfennau neu graffeg perthnasol ar y Wefan yn cael eu haddasu mewn unrhyw ffordd.

 

Heblaw pryd y nodir yn benodol yn yr hysbysiad hwn, ni all unrhyw ran o'r Wefan gael ei hatgynhyrchu neu ei storio ar unrhyw wefan arall neu ei chynnwys mewn unrhyw system neu wasanaeth adferiad electronig gyhoeddus neu breifat heb ganiatâd ysgrifenedig Sir y Fflint ymlaen llaw. Gwaherddir gwneud unrhyw ddefnydd masnachol o ddyfyniadau o'r Wefan heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Sir y Fflint.

 

Os byddwch yn torri unrhyw un o delerau’r hysbysiad cyfreithiol, bydd eich caniatâd i ddefnyddio'r wefan yn dod i ben yn awtomatig.

 

Ymwadiad ac Atebolrwydd

Er bod y Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth ar y Wefan yn gywir, nid yw'r Cyngor yn gwarantu cywirdeb neu gyflawnrwydd y deunydd ar y Wefan. Gall y Cynghorau wneud newidiadau i'r deunydd ar y wefan ar unrhyw adeg heb rybudd. Gall y deunydd ar y Wefan fod yn hen, ac nid yw’r Cynghorau’n ymrwymo o gwbl i ddiweddaru deunydd o'r fath.

 

Mae'r deunydd ar y Wefan yn cael ei ddarparu "fel y mae", heb unrhyw amodau, gwarantau neu delerau eraill o unrhyw fath. Yn unol â hynny, i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae’r Cynghorau’n eithrio’r holl sylwadau, gwarantau, amodau a thelerau eraill y gellir eu heithrio yn ôl y gyfraith.

 

Darperir y dolenni i wefannau trydydd parti ar y Wefan er hwylustod i chi yn unig. Os ydych yn defnyddio’r dolenni hyn, rydych yn gadael y Wefan. Nid yw'r Cyngor wedi adolygu pob un o'r gwefannau trydydd parti hyn, ac nid ydynt yn rheoli nac yn gyfrifol am y gwefannau hyn na’u cynnwys neu argaeledd. Nid yw’r Cynghorau felly’n eu cefnogi nac yn gwneud unrhyw sylwadau yn eu cylch, neu unrhyw ddeunydd a geir yno, neu unrhyw ganlyniadau y gellir eu cael o’u defnyddio. Os byddwch yn penderfynu mynd i mewn i unrhyw un o'r gwefannau trydydd parti sy'n gysylltiedig â'r wefan, rydych yn gwneud hynny’n gyfan gwbl yn ôl eich menter eich hun.

 

Nid yw'r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd, neu gyfrifoldeb am golled neu ddifrod a achosir (boed mewn camwedd (gan gynnwys esgeulustod heb gyfyngiad), contract neu fel arall) mewn cysylltiad â'r Wefan mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys heb gyfyngiad o ganlyniad i ddefnydd o, neu ddibyniaeth ar, y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon neu unrhyw wybodaeth arall a geir trwy'r Wefan hon neu drwy ddolenni ar y Wefan hon at safleoedd allanol.

 

Ni fydd unrhyw beth yn yr hysbysiad cyfreithiol hwn yn eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd y Cynghorau a Llywodraeth Cymru am farwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan esgeulustod, twyll, camliwio ynghylch mater sylfaenol; neu unrhyw atebolrwydd na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu dan gyfraith berthnasol.

   

Preifatrwydd

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych yn ei gyflwyno drwy'r wefan yn dod o dan y Ddeddf Diogelu Data 1998 a bydd yn cael ei chadw yn unol â'r Ddeddf hon. At ddibenion y Ddeddf, y Cynghorau yw'r Rheolwr Data.  Dim ond i ymateb i'ch sylwadau neu ymholiadau y bydd y Cyngor yn defnyddio'r data a gyflwynir gennych chi. Nid yw'r Cynghorau yn rhannu cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt eraill gydag unrhyw sefydliadau eraill heb eich caniatâd.  Gweler ein Polisi Preifatrwydd am fwy o fanylion, os gwelwch yn dda.

 

Cyfraith Llywodraethu

Bydd yr hysbysiad cyfreithiol hwn yn cael ei lywodraethu a'i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi mewn cysylltiad â'r hysbysiad cyfreithiol hwn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr Llysoedd Cymru a Lloegr